Yr angen i ystyried opsiynau trafnidiaeth

Bus rural transport GettyImages-692591596


Mae papur diweddar gan yr Athro Gary Higgs, Dr Andrew Price a Dr Mitchel Langford o WISERD a Chanolfan Ymchwil GIS a gyhoeddwyd yn y Journal of Rural Studies wedi amlygu’r angen i ystyried yr opsiynau trafnidiaeth sydd ar gael i gael mynediad i wasanaethau i’r rhai sy’n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus. 


Drwy dynnu ar ddadansoddiad gofodol o gau canghennau banc yn ystod rhan gyntaf COVID, y nod fu nodi cymunedau yng Nghymru a oedd wedi colli gwasanaethau ac a oedd hefyd wedi profi newidiadau yn narpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y cyfnod hwn. Mae angen ystyried materion o'r fath wrth gynllunio gwasanaethau neu fonitro effaith cau ar gyfer y rhai a all fod yn rhannol neu'n gyfan gwbl ddibynnol ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae gan gyfleoedd teithio cyhoeddus a llesol rôl bwysig iawn i’w chwarae wrth alluogi mynediad dyddiol i wasanaethau fel meddygfeydd, siopau bwyd a swyddfeydd post. 


Mae'r papur yn tynnu sylw at ddull mwy cynhwysol o leoli gwasanaethau a chyfleusterau sy'n mabwysiadu lefelau priodol o ddarpariaeth trafnidiaeth i fynd i'r afael â phryderon ynghylch mynediad at wasanaethau hanfodol i'r rhai heb ddulliau trafnidiaeth preifat.


Gellir darllen y papur yn: https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S074301672200184X?via%3Dihub