Llongyfarchiadau i Dr Andrew Price sydd heddiw wedi ennill ei ddoethuriaeth

Dr Andrew Price, GIS Research Group



Llongyfarchiadau i Dr Andrew Price sydd heddiw wedi ennill ei ddoethuriaeth.


Ariannwyd PhD Andrew gan Ysgoloriaethau Sgiliau'r Economi Wybodaeth (KESS 2), rhaglen Cymru gyfan a gefnogir gan Gronfeydd Cymdeithasol Ewrop (ESF), ac mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, prif gynghorydd Llywodraeth Cymru ar chwaraeon.

"Ceisiodd fy thesis wella ein dealltwriaeth a'n mesur o hygyrchedd gofodol i gyfleusterau chwaraeon, gan alluogi'r rhai sy'n cynllunio darpariaeth gwasanaethau o'r fath i ystyried dulliau amgen o deithio a chystadleuaeth rhwng y boblogaeth. Gwnaed hyn drwy ddefnyddio ystod o ddulliau ffynhonnell agored i gyfrifo sgoriau hygyrchedd fel cymhareb cyflenwi i alw gyda'r gwahanol fathau o drafnidiaeth. Bydd yn caniatáu i sefydliadau a llunwyr polisi sydd ag adnoddau prin helpu i gynllunio ar gyfer y rheini mewn ardaloedd difreintiedig nad ydynt o reidrwydd yn gallu manteisio ar drafnidiaeth breifat, nid yn unig ar gyfer chwaraeon ond o bob math o ddarpariaeth i wasanaethau allweddol," dywedodd.

"Rwy'n falch o'r hyn rwyf wedi'i gyflawni o fewn fy PhD ac yn hapus bod fy PhD wedi caniatáu i mi gyfrannu at wybodaeth yn fy maes gwyddor gwybodaeth geo-ofodol a chyfrifiadureg.  

"Mae fy PhD wedi fy ngalluogi i archwilio meysydd newydd yn fy mhwnc; ar ôl BSc mewn Datblygu Gemau Cyfrifiadurol a MSc mewn Cyfrifiadureg, rwyf wedi gallu symud ymlaen i Systemau Gwybodaeth a Gwyddor Geo-ofodol.

"Mwynheais gymryd rhan mewn cynadleddau (mewn person ac ar-lein), gan gwrdd â phobl newydd yn yr un maes, ysgrifennu papurau ar gyfer cyfnodolion. Mae PDC, KESS a Chwaraeon Cymru wedi rhoi'r holl gymorth yr oedd ei angen arnaf i wneud hyn.

"Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ym Mhrifysgol De Cymru o dan WISERDfel Uwch Gynorthwyydd Ymchwil, gan barhau â'r ymchwil pellach yn fy thesis. Unwaith y bydd fy nghontract wedi'i gwblhau, rwy'n bwriadu symud i ddiwydiant gan helpu i ddatblygu systemau GIS sy'n gwella ar y gwaith rwyf wedi'i wneud o fewn fy PhD."