28-11-2023
Prifysgol De Cymru
Dydd Mercher 3 a dydd Iau 4 Gorffennaf 2024
Thema ein cynhadledd flynyddol yw ‘Anelu at gymdeithas decach’.
Sut olwg fyddai ar gymdeithas decach? Sut gall ymchwil y gwyddorau cymdeithasol ddyfnhau ein dealltwriaeth o’r mecanweithiau sy’n arwain at anghydraddoldebau hirdymor a pharhaus? Sut gallwn ni gyfrannu at bolisïau sy’n cael effaith a all sicrhau cymdeithas decach a mwy cynhwysol?
Bydd cynhadledd WISERD 2024 yn rhoi sylw i’r materion hyn yng nghyd-destun nifer o feysydd sydd â goblygiadau ar gyfer polisi ac ymarfer, gan gynnwys:
Croesewir hefyd bapurau a phosteri ar bynciau eraill o fewn y thema nad ydynt yn dod o dan yr is-themâu uchod.
Eleni, hoffem wahodd cynigion am gyflwyniadau papur, sesiynau rhyngweithiol/gweithdai, posteri/arddangosion, neu golocwia mewn unrhyw ddisgyblaeth sy’n ymgysylltu â’r gwyddorau cymdeithasol.
Rhaid defnyddio’r ffurflen dempled ar gyfer cyflwyno crynodebau.
Dylid cyflwyno pob crynodeb o gynnig neu syniad ar wahân.
Gellir cyflwyno cynigion yn Gymraeg neu Saesneg.
Caiff yr holl gyflwyniadau eu hadolygu gan Bwyllgor Adolygu WISERD. Swyddogaeth y pwyllgor yw sicrhau bod rhaglen gytbwys o sesiynau’n cael ei datblygu sy’n seiliedig ar berthnasedd, galw, anghenion ac amseru datblygiad proffesiynol. Efallai na fydd yn bosibl cynnwys yr holl gynigion a syniadau, ond hoffem ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu hymdrechion ac am gymryd diddordeb mewn cefnogi Cynhadledd Flynyddol WISERD 2024.
Bydd hysbysiadau derbyn yn cael eu cyhoeddi o fis Mawrth 2024 ymlaen ac unwaith y bydd y rhaglen wedi’i chwblhau, bydd cyfranwyr yn cael cadarnhad o ddyddiad ac amser eu sesiwn. Gofynnir i siaradwyr llwyddiannus gyflwyno eu deunyddiau sesiwn manwl yn ystod y gwanwyn.
Mae’n bosibl y gofynnir i siaradwyr llwyddiannus gyflwyno mewn fformat gwahanol.
Os cewch eich derbyn fel siaradwr, bydd angen i chi gofrestru fel cynrychiolydd yn y ffordd arferol ac i archebu lle yn ystod y cyfnod archebu adar cynnar (byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd pan fydd archeb y gynhadledd yn agor).
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyniadau haniaethol yw 9yb ddydd Gwener 19 Ionawr 2024.
Anfonwch eich crynodebau i [email protected].
28-11-2023
20-11-2023
08-03-2023
25-08-2022
20-07-2022
24-06-2022
20-06-2022
08-04-2022
07-04-2022