Rydym yn croesawu ceisiadau am raddau ymchwil ôl-raddedig sy’n cael eu hariannu gan yr unigolyn, megis PhD neu Meistr drwy Ymchwil. Gallwch astudio'n llawn amser neu'n rhan-amser. Gallwch ddod o hyd i fanylion ein cyrsiau israddedig ac ôl-raddedig yma.
Neilltuir tîm goruchwylio i ymchwilwyr ôl-raddedig sydd â'r arbenigedd a'r profiad i'w cefnogi yn eu hastudiaethau. Bydd goruchwylwyr yn eich helpu i lunio eich prosiect ymchwil, rhoi adborth ar y gwaith sydd ar y gweill a'ch tywys i'w gwblhau.
Drwy gydol eich doethuriaeth, cewch gyfleoedd i gyfathrebu eich gwaith a rhwydweithio gydag ymchwilwyr eraill, yn fewnol ac yn allanol. Mae llawer o'n myfyrwyr yn cael cyfle i ennill profiad addysgu yn y Brifysgol a chydag ysgolion drwy'r Brilliant Club.
Byddwch hefyd yn elwa ar raglen o gyrsiau datblygu sgiliau perthnasol a drefnir gan yr Ysgol Graddedigion sy'n helpu i sicrhau eich bod wedi'ch paratoi'n llawn ar gyfer gofynion PhD.
Pan fyddwch yn barod i gyflwyno cais, dyma sut i wneud cais.
Gallwch ddod o hyd i'n ffioedddysgu ar gyfer ymchwil ôl-raddedig yma a rhagor o wybodaeth ar ein safle Ysgol i Raddedigion.Athro Gary Higgs
Llinos Spargo, Ysgol i Raddedigion, Cyfrifiadureg, Peirianneg a Gwyddoniaeth